2016 Rhif 216 (Cy. 85)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) a Chynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o ganlyniad i gychwyn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”).

Mae Deddf 2014 yn disodli, o ran Cymru, y ddarpariaeth a wnaed yn flaenorol gan Ran 3 o Ddeddf Plant 1989 (“Deddf 1989”) ac Atodlen 2 iddi.

Mae’r pwerau o fewn Deddf 2014 wedi eu harfer (yn bennaf drwy ddefnyddio’r pwerau o fewn Rhan 6 o’r Ddeddf honno (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya)) i wneud Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”). Mae Rheoliadau 2015 yn gwneud darpariaeth ynghylch cynllunio gofal a materion cysylltiedig ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, hynny yw, ar gyfer plant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (pa un a ydynt yng ngofal yr awdurdod hwnnw yn rhinwedd gorchymyn gofal o dan adran 31 o Ddeddf 1989 ai peidio).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol a chysylltiedig i is-ddeddfwriaeth sy’n ofynnol o ganlyniad i gychwyn Deddf 2014 a gwneud Rheoliadau 2015 drwy arfer y pwerau o fewn Rhan 6 o Ddeddf 2014. Mae’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei diwygio gan y Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth (yn bennaf) ynghylch cynllunio gofal, penderfyniadau lleoli ac adolygu achosion plant penodol (y rhai sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, sy’n cael eu lletya gan sefydliadau gwirfoddol neu sydd wedi eu lleoli mewn cartref preifat i blant).

Effaith y diwygiadau a wneir yn y Rheoliadau hyn yw na fydd yr is-ddeddfwriaeth gynharach, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cynllunio gofal a materion cysylltiedig ar gyfer plant, ond yn gymwys mewn perthynas â phlant sy’n cael llety gan sefydliadau gwirfoddol ac i blant sydd wedi eu lleoli mewn cartrefi preifat i blant ac y bydd yn cyfeirio at y ddarpariaeth briodol a wneir gan Ddeddf 2014.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd

nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


2016 Rhif 216 (Cy. 85)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) a Chynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016

Gwnaed                             19 Chwefror 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       24 Chwefror 2016

Yn dod i rym                             6 Ebrill 2016

 

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan y darpariaethau yn yr Atodlen yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn([1]):

Enwi a chychwyn

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) a Chynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016.

Diwygio Rheoliadau Llochesau (Cartrefi Plant a Lleoliadau Maeth) 1991

2.(1) Mae Rheoliadau Llochesau (Cartrefi Plant a Lleoliadau Maeth) 1991([2]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)     yn y lle priodol mewnosoder—

“remand order” means an order of the court made under section 92 or section 102 of the Legal Aid, Sentencing and Punishment of Offenders Act 2012([3]);”, a

(b)     yn y diffiniad o “responsible person”, ar ôl y geiriau “emergency protection order” mewnosoder “, remand order”.

(3) Yn rheoliad (4)(1) (tynnu tystysgrif yn ôl), yn lle is-baragraff (c) rhodder—

(c) where a foster parent providing a refuge fails to comply with any provision contained in—

                       (i)  an agreement to which the foster parent is a party concerning matters to which paragraphs 4 to 11 and 15 of Schedule 5 to the Fostering Services (Wales) Regulations 2003([4]) apply, or

                      (ii)  an agreement to which the foster parent is a party concerning matters to which paragraphs 4 to 8 of Schedule 6 to the Fostering Services (Wales) Regulations 2003, or paragraphs 1(2) and (5), and 3(7) and (10) of Schedule 3 to the Care Planning, Placement and Case Review (Wales) Regulations 2015([5]) (as the case may be) apply, or

                     (iii)  regulations 24 or 26 of the Care Planning, Placement and Case Review (Wales) Regulations 2015 (in respect of an emergency or temporary placement);”.

Diwygio Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002

3.(1) Mae Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002([6]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 18(1)(ch) (addysg, cyflogaeth a gweithgareddau hamdden), ar ôl “Reoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007([7])” mewnosoder “, Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015,”.

(3) Yn rheoliad 20(2)(e) (anghenion iechyd plant), ar ôl “Reoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007” mewnosoder “, Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015,”.

Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003

4.(1) Mae Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003([8]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)     yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015;”;

(b)     yn lle’r diffiniad o “rhiant maeth” rhodder y canlynol—

ystyr “rhiant maeth” (“foster parent”) yw person sydd wedi ei gymeradwyo fel rhiant maeth—

(a) o dan y Rheoliadau hyn, a

(b) ac eithrio yn rheoliadau 24 i 33, mae’n cynnwys person y mae plentyn wedi ei leoli gydag ef o dan reoliad 26 o Reoliadau 2015 (cymeradwyo dros dro berthynas, cyfaill neu berson arall sydd â chysylltiad â phlentyn) neu reoliad 28 o’r Rheoliadau hynny (cymeradwyo dros dro ddarpar fabwysiadydd penodol fel rhiant maeth);”; ac

(c)     yn lle’r diffiniad o “lleoliad” rhodder y canlynol—

ystyr “lleoliad” (“placement”) yw unrhyw leoliad plentyn gyda rhieni maeth a wneir gan—

(a) awdurdod lleol o dan adran 81 o Ddeddf 2014, neu

(b) corff gwirfoddol o dan adran 59(1)(a) o Ddeddf 1989,

nad yw’n lleoliad ar gyfer mabwysiadu ac, ac eithrio yn Rhan V, mae’n cynnwys lleoliad sy’n cael ei drefnu gan asiantaeth faethu annibynnol sy’n gweithredu ar ran awdurdod lleol, ac mae cyfeiriadau at blentyn sy’n cael ei leoli i’w dehongli yn unol â hynny;”.

(3) Yn rheoliad 3(3)(b)(ii) (datganiad o ddiben ac arweiniad plant), yn lle “adran 26(3) o Ddeddf 1989” rhodder “adran 174(1) o Ddeddf 2014”.

(4) Yn rheoliad 30 (cofnodion achos ynglŷn â rhieni maeth ac eraill)—

(a)     ym mharagraff (2), hepgorer is-baragraff (d); a

(b)     yn lle paragraff (4) rhodder y canlynol—

(4) Rhaid i awdurdod lleol gadw cofnod achos ar gyfer pob person y mae plentyn wedi’i leoli gydag ef o dan reoliad 26 o Reoliadau 2015 (cymeradwyo dros dro berthynas, cyfaill neu berson arall sydd â chysylltiad â phlentyn) neu o dan reoliad 28 o’r Rheoliadau hynny (cymeradwyo dros dro ddarpar fabwysiadydd penodol fel rhiant maeth) a rhaid iddo gynnwys mewn perthynas â’r person hwnnw—

(a)   cofnod ynglŷn â’r lleoliad, gan gynnwys enw, oedran a rhyw pob plentyn sydd wedi’i leoli, dyddiad dechrau’r lleoliad ac, os yw’r lleoliad wedi ei derfynu, dyddiad ac amgylchiadau’r terfyniad; a

(b)  yr wybodaeth a sicrhawyd mewn perthynas â’r ymholiadau a wnaed o dan reoliad 26(2) neu reoliad 28 (fel y bo’n briodol) o Reoliadau 2015.”.

(5) Yn lle rheoliad 31 (cofrestr o rieni maeth) rhodder y canlynol—

Cofrestr o rieni maeth

31. Rhaid i’r darparydd gwasanaeth maethu gadw cofrestr (“cofrestr o rieni maeth”) a chofnodi ynddi’r manylion canlynol mewn perthynas â phob rhiant maeth—

(a)   enw, cyfeiriad, dyddiad geni a rhyw pob rhiant maeth ac, yn achos gwasanaeth maethu awdurdod lleol, bob person y mae wedi lleoli plentyn gydag ef o dan reoliad 26 neu reoliad 28 o Reoliadau 2015,

(b)  dyddiad y gymeradwyaeth a phob adolygiad o’i gymeradwyaeth (yn ôl fel y digwydd), ac

(c)   telerau cyfredol y gymeradwyaeth (os oes rhai).”.

(6) Yn rheoliad 32(2) (cadw cofnodion a chyfrinachedd cofnodion), yn lle “reoliad 38(2)” rhodder “reoliad 26 neu reoliad 28 o Reoliadau 2015”.

(7) Yn rheoliad 33 (dyletswydd gyffredinol yr awdurdod cyfrifol)—

(a)     yn y geiriau agoriadol, yn lle “awdurdod cyfrifol” rhodder “gorff gwirfoddol”;

(b)     ym mharagraff (a), yn lle “(yn ôl fel y digwydd) adran 22(3) neu” rhodder “adran”; ac

(c)     yn y pennawd, yn lle “yr awdurdod cyfrifol” rhodder “y corff gwirfoddol”.

(8) Yn rheoliad 34 (gwneud lleoliadau)—

(a)     yn lle’r geiriau agoriadol ym mharagraff (1) rhodder—

(1) Ni chaiff corff gwirfoddol leoli plentyn gyda rhiant maeth ond—”;

(b)     ym mharagraff (1)(a)(i), yn lle “yr awdurdod cyfrifol” rhodder “y sefydliad gwirfoddol”;

(c)     ym mharagraff (2)(ch), yn lle “rheoliad 40” rhodder “rheoliad 29 o Reoliadau 2015 (asiantaethau maethu annibynnol – cyflawni swyddogaethau awdurdod cyfrifol)”; a

(d)     ym mharagraff (3), yn lle “awdurdod cyfrifol” rhodder “corff gwirfoddol”.

(9) Yn rheoliad 35 (goruchwylio lleoliadau)—

(a)     yn lle “awdurdod cyfrifol”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “corff gwirfoddol”;

(b)     yn lle “awdurdod”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “corff”; ac

(c)     hepgorer paragraff (2).

(10) Yn rheoliad 36 (terfynu lleoliadau)—

(a)     yn lle “awdurdod cyfrifol”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “corff gwirfoddol”; a

(b)     ym mharagraff (1), yn lle “(yn ôl fel y digwydd) adran 22(3) neu” rhodder “adran”.

(11) Yn rheoliad 37(1) (lleoliadau byr-dymor), yn lle “awdurdod cyfrifol” rhodder “corff gwirfoddol”.

(12) Hepgorer rheoliad 38 (lleoliadau brys a di-oed gan awdurdodau lleol).

(13) Yn rheoliad 39 (lleoliadau y tu allan i Gymru), hepgorer paragraff (2).

(14) Hepgorer rheoliad 40 (asiantaethau maethu annibynnol – cyflawni swyddogaethau awdurdod lleol). 

(15) Yn rheoliad 42B(1) (hysbysu am gydymffurfedd), yn lle “Deddf 1989 a Deddf 2000” rhodder “Deddf 1989, Deddf 2000 a Deddf 2014”.

(16) Yn Atodlen 6 (materion a rhwymedigaethau mewn cytundebau lleoliad maeth)—

(a)     yn lle “awdurdod cyfrifol”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “corff gwirfoddol”; a

(b)     yn lle “awdurdod”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “corff”.

Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005

5.(1) Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005([9]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)     yn y lle priodol, mewnosoder—

“ystyr “derbyn gofal” (“looked after”) yw—

(a) derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru yn unol ag adran 74(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014([10]), neu

(b) derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr yn unol ag adran 22(1) o Ddeddf 1989;”; a

(b)     yn lle’r diffiniad o “swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol” rhodder—

ystyr “swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol” (“social services functions”) yw swyddogaethau o fewn ystyr adran 143 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac Atodlen 2 iddi;”.

(3) Yn rheoliad 12(2) (gofyniad i ddechrau cofnod achos i blentyn), ar ôl “o dan Ddeddf 1989” mewnosoder “, neu Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (yn ôl y digwydd)”.

(4) Ar ôl rheoliad 12 mewnosoder—

“Dyletswyddau’r asiantaeth fabwysiadu pan fo plentyn i gael ei leoli yn unol ag adran 81(11) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

12A.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo penderfyniad wedi’i wneud i leoli plentyn yn unol â rheoliad 28 o Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015([11]) (cymeradwyo dros dro ddarpar fabwysiadydd penodol fel rhiant maeth).

(2) Rhaid i’r asiantaeth fabwysiadu—

(a)   hysbysu’r darpar fabwysiadydd yn ysgrifenedig o’r penderfyniad i leoli’r plentyn gyda’r darpar fabwysiadydd;, a

(b)  esbonio’r penderfyniad i’r plentyn mewn modd priodol, gan roi sylw i oedran a dealltwriaeth y plentyn.

(3) At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “lleoli” (“placed”) yw wedi’i leoli yn unol ag adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 pan fo awdurdod lleol wedi’i fodloni, yn unol ag adran 81(11) o’r Ddeddf honno, y dylai’r plentyn gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd penodol sydd wedi cael cymeradwyaeth dros dro fel rhiant maeth.”.

(5) Yn rheoliad 14 (gofyniad i ddarparu cwnsela a gwybodaeth ar gyfer rhiant neu warcheidwad y plentyn neu bobl eraill a chanfod eu dymuniadau a’u teimladau)—

(a)     ar ôl paragraff (1)(b)(iii), hepgorer “ac” a mewnosoder—

                    “(iv)  goblygiadau cyfreithiol i blentyn gael ei leoli yn unol ag adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gyda darpar fabwysiadydd penodol sydd wedi cael cymeradwyaeth dros dro fel rhiant maeth yn dilyn ystyriaeth yn unol ag adran 81(11) o’r Ddeddf honno; ac”; a

(b)     ym mharagraff (3)(a), yn lle “a (iii)” rhodder “(iii), a (iv)”.

(6) Yn rheoliad 38(1) (swyddogion adolygu annibynnol), yn lle “adran 26(2A) o Ddeddf 1989” rhodder “adran 100 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014”.

(7) Yn rheoliad 46 (addasu Deddf 1989 o ran mabwysiadu), hepgorer paragraffau (1) a (2).

(8) Ar ôl rheoliad 46 (addasu Deddf 1989 o ran mabwysiadu), mewnosoder—

Addasu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â mabwysiadu

46A—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys–

(a)   pan awdurdodir awdurdod lleol i leoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu; neu

(b)  pan fydd plentyn a leolwyd ar gyfer ei fabwysiadu gan awdurdod lleol yn llai na chwe wythnos oed.

(2) Pan fydd paragraff (1) yn gymwys—

(a)   mae adran 6(4)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at bersonau â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn yn gyfeiriad at unrhyw ddarpar fabwysiadydd y mae’r awdurdod lleol wedi lleoli’r plentyn gydag ef ar gyfer ei fabwysiadu; a

(b)  nid yw adran 95 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi yn gymwys.”.

(9) Yn Atodlen 5 (gwybodaeth am y plentyn i’w rhoi i ddarpar fabwysiadydd), ym mharagraff 6, hepgorer “gan yr awdurdod lleol”.

Diwygio Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006

6.(1) Mae Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006([12]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 4(2) (personau eraill yr ystyrir eu bod yn ffurfio aelwyd unigol at ddibenion adran 254 o’r Ddeddf), ar ôl “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003” mewnosoder “neu Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015([13]) (yn ôl y digwydd)”.

Diwygio Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007

7.(1) Mae Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007([14]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso)—

(a)     hepgorer y diffiniad o “tîm integredig cymorth i deuluoedd”;

(b)     yn y diffiniad o “ymwelydd annibynnol”, yn lle “baragraff 17 o Atodlen 2 i’r Ddeddf” rhodder “adran 98 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014”; ac

(c)     yn y diffiniad o “awdurdod cyfrifol”—

                           (i)    hepgorer paragraff (a),

                         (ii)    ym mharagraff (b), hepgorer “nad yw’n derbyn gofal awdurdod lleol”, a

                       (iii)    ym mharagraff (c), hepgorer “naill ai’n derbyn gofal awdurdod lleol nac”.

(3) Yn rheoliad 2 (dyletswydd i adolygu achosion plant), hepgorer “tra bydd yn derbyn gofal neu”.

(4) Yn rheoliad 4 (amser pan fo’n rhaid adolygu pob achos)—

(a)     ym mharagraff (1), yn lle “derbyn gofal gan yr awdurdod cyfrifol neu’n dechrau cael ei letya ganddo”, rhodder “cael ei letya gan yr awdurdod cyfrifol”; a

(b)     yn lle paragraff (3), rhodder—

(3) Nid oes dim byd yn y rheoliad hwn yn rhwystro’r awdurdod cyfrifol rhag adolygu’r achos cyn yr amser a bennir ym mharagraff (1) neu (2) ac, yn benodol, rhaid iddo wneud hynny os yw’r swyddog adolygu annibynnol yn cyfarwyddo hynny.”.

(5) Yn rheoliad 5(2) (y dull ar gyfer adolygu achosion), hepgorer “y mae plentyn yn derbyn gofal ganddo neu”.

(6) Hepgorer rheoliad 6A (ystyriaethau ychwanegol y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt pan fo tîm integredig cymorth i deuluoedd yn ymgysylltu).

(7) Yn rheoliad 7(1) (adolygiadau iechyd), yn lle “sy’n parhau i dderbyn gofal neu y darperir llety iddo ganddo”, rhodder “y mae’n parhau i ddarparu llety iddo”.

(8) Yn rheoliad 8 (ymgynghori, cymryd rhan a hysbysu)—

(a)     ym mharagraff (1), hepgorer is-baragraff (chch); a

(b)     ym mharagraff (3), hepgorer is-baragraff (chch).

(9) Yn rheoliad 12 (cymhwyso’r rheoliadau i gyfnodau byr)—

(a)     ym mharagraff (1), yn lle “plentyn i dderbyn gofal neu bod llety yn cael ei ddarparu iddo”, rhodder “llety yn cael ei ddarparu i blentyn”; a

(b)     ym mharagraff (3), yn lle “sy’n parhau i dderbyn gofal neu y darperir llety iddo”, rhodder “y bydd llety yn parhau i gael ei ddarparu iddo”.

(10) Yn rheoliad 14 (eithriadau i gymhwysiad y rheoliadau), hepgorer “gan awdurdod lleol neu”.

(11) Yn Atodlen 1 (elfennau sydd i’w cynnwys mewn adolygiad)—

(a)     ym mharagraff 1, yn lle “wrth i’r plentyn dderbyn gofal” rhodder “ar gyfer darparu llety i’r plentyn”; a

(b)     ym mharagraff 5—

                           (i)    hepgorer is-baragraff (b), a

                         (ii)    yn is-baragraff (c), yn lle “y Ddeddf”, rhodder “Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014”.

(12) Yn Atodlen 2 (ystyriaethau y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt)—

(a)     hepgorer paragraffau (1), (2) a (7);

(b)     ym mharagraff (5), hepgorer “o ran bod y plentyn yn derbyn gofal neu”; ac

(c)     ym mharagraff (10), yn lle “fydd y plentyn yn derbyn gofal neu pan na ddarperir llety iddo”, rhodder “ddarperir llety i’r plentyn”.

(13) Hepgorer Atodlen 4 (ystyriaethau ychwanegol y mae awdurdodau lleol i roi sylw iddynt pan fo tîm integredig cymorth i deuluoedd yn ymgysylltu).

Diwygio Rheoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007

8.(1) Mae Rheoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007([15]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)     yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “derbyn gofal awdurdod lleol” a “derbyn gofal gan awdurdod lleol” (“looked after by a local authority”) yw—

(a) derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru yn unol ag adran 74 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu

(b) derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr yn unol ag adran 22(1) o Ddeddf 1989;”;

(b)     hepgorer y diffiniad o “awdurdod ardal”;

(c)     hepgorer y diffiniad o “achos gofal”;

(d)     yn y diffiniad o “lleoliad”, hepgorer paragraff (a); ac

(e)     yn y diffiniad o “awdurdod cyfrifol”—

                           (i)    hepgorer paragraff (a),

                         (ii)    ym mharagraff (b), hepgorer “nad yw’n derbyn gofal awdurdod lleol”, a

                       (iii)    ym mharagraff (c), hepgorer “naill ai’n derbyn gofal awdurdod lleol nac”.

(3) Yn rheoliad 3 (cymhwyso’r rheoliadau)—

(a)     ym mharagraff (1), hepgorer is-baragraff (a); a

(b)     ym mharagraff (2), hepgorer “awdurdod lleol neu”.

(4) Yn rheoliad 4 (gwneud trefniadau)—

(a)     hepgorer paragraff (3); a

(b)     ym mharagraff (4), yn lle “Mewn unrhyw achos arall pan fo plentyn yn derbyn gofal neu lety ond nad yw mewn gofal” rhodder “Mewn unrhyw achos pan fo plentyn wedi’i letya”.

(5) Yn rheoliad 5 (materion i’w hystyried wrth wneud trefniadau a’u cynnwys)—

(a)     yn lle paragraff (6) rhodder—

(6) Rhaid i gofnod ysgrifenedig a wneir yn unol â pharagraff (3) neu (5) fod ar gael ar ffurf addas i uwch swyddog o’r awdurdod lleol dros yr ardal y mae’r plentyn yn preswylio ynddi fel arfer.”; a

(b)     ym mharagraff (8), hepgorer “Ac eithrio mewn achos gofal,”.

(6) Yn rheoliad 6 (hysbysiad o drefniadau)—

(a)     ym mharagraff (1)—

                           (i)    yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a) unrhyw berson y ceisiwyd arwydd ganddo o’i ddymuniadau a’i deimladau o dan adran 61(2) neu adran 64(2) o’r Ddeddf (ymgynghori cyn gwneud penderfyniad mewn cysylltiad â phlant sy’n cael llety gan gorff gwirfoddol neu mewn cartref preifat i blant);”,

                         (ii)    yn is-baragraff (c), hepgorer “, os yw’n wahanol i’r awdurdod ardal,”,

                       (iii)    hepgorer is-baragraff (d),

                        (iv)    yn is-baragraff (e), hepgorer “ac eithrio mewn achos gofal,”, a

                          (v)    hepgorer is-baragraff (f); a

(b)     ym mharagraff (3), yn lle “mharagraff (1)(b) i (f)” rhodder “mharagraff (1)(b) i (e)”.

(7) Yn rheoliad 9(2)(d) (sefydlu cofnodion), yn lle “yr awdurdod lleol neu’r” rhodder “y”.

(8) Yn rheoliad 11 (y gofrestr)—

(a)     hepgorer paragraff (1);

(b)     yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Rhaid i awdurdod cyfrifol, mewn cysylltiad â phob plentyn a leolir ganddo, gofnodi mewn cofrestr sydd i’w chadw at y diben hwnnw y manylion a bennir ym mharagraffau (3) a (4).”;

(c)     ym mharagraff (3)—

                           (i)    yn y geiriau agoriadol, yn lle “pharagraffau (1) neu (2)” rhodder “pharagraff (2)”,

                         (ii)    hepgorer is-baragraff (ch),

                       (iii)    yn lle is-baragraff (dd) rhodder—

(dd) a yw enw’r plentyn wedi ei gofnodi mewn cofrestr a gynhelir o dan adran 18 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (cofrestrau o bobl â nam ar eu golwg, pobl â nam ar eu clyw a phobl anabl eraill);”, a

                        (iv)    hepgorer is-baragraffau (f) ac (ff); a

(d)     yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Yn achos plentyn sydd wedi ei leoli, y gwnaed trefniadau mewn cysylltiad ag ef i oruchwyliaeth o’r lleoliad gael ei wneud ar ran awdurdod cyfrifol, rhaid cofnodi yn y gofrestr fod y trefniadau wedi eu gwneud ac enw’r person y gwnaed hwy gydag ef.”.

(9) Yn rheoliad 12 (cael at gofnodion a’r gofrestr gan swyddogion achosion teuluol ar gyfer Cymru a swyddogion y gwasanaeth), yn lle’r geiriau agoriadol rhodder—

(12) Rhaid i bob awdurdod cyfrifol ddarparu i swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu i swyddog o’r gwasanaeth—”.

(10) Hepgorer rheoliad 13 (trefniadau rhwng awdurdodau lleol ac awdurdodau ardal).

(11) Yn Atodlen 1 (materion y mae awdurdodau cyfrifol i’w hystyried)—

(a)     hepgorer paragraffau 1, 2 a 5; a

(b)     ym mharagraff 6, yn lle “derbyn gofal” rhodder “cael llety”.

(12) Yn Atodlen 4 (materion sydd i’w cynnwys mewn trefniadau i letya plant nad ydynt mewn gofal)—

(a)     ym mharagraff (5), hepgorer is-baragraff (a);

(b)     hepgorer paragraff 8;

(c)     yn lle paragraff 9 rhodder—

9. Y cyfnod y disgwylir i’r trefniadau barhau a’r camau a ddylai fod yn gymwys i ddwyn y trefniadau i ben, gan gynnwys trefniadau i adsefydlu’r plentyn gyda’r person yr oedd yn byw gydag ef cyn gwneud y trefniadau, neu gyda rhyw berson addas arall.”; a

(d)     yn y pennawd, hepgorer “nad ydynt mewn gofal”.

 

 

 

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

19 Chwefror 2016

                   YR ATODLEN         Rhaglith

Darpariaethau sy’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru a arferir wrth wneud y Rheoliadau hyn

 

Deddfiad

darpariaethau rhoi pŵer

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1)

83(5), 84, 97, 97(4)(a), 97(5), 98(1)(a), 100(1)(b), 100(2)(a), 102(1), 102(2), 196(2) a 198

Deddf Plant 1989(2)

51(4)(3), 59(2)(4), 59(3B)(5) a 104(4)(6)

Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002(7)

9(1)(a), 53, 140(7)(8), 140(8) a 142

Deddf Safonau Gofal 2000(9)

22(7)(10), 22(9)(11), 118(5), 118(6) a 118(7)

(1) 2014 dccc 4.

(2) 1989 p. 41 (“Deddf 1989”). Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1989 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd cynnwys Deddf 1989 yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(3) Diwygiwyd adran 51 o Ddeddf 1989 gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p. 14), Atodlen 4, paragraff 14(7).

(4) Diwygiwyd adran 59 o Ddeddf 1989 gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p. 14), Atodlen 4, paragraff 14(8), gan Ddeddf Plant 2004 (p. 31), adran 49(4), a chan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p. 23), Atodlen 3, paragraff 23.

(5) Mewnosodwyd adran 59(3B) yn Neddf 1989 gan Reoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016.

(6) Diwygiwyd adran 104 o Ddeddf 1989 gan Ddeddf Plant a Mabwysiadu 2006 (p. 20), Atodlen 2, paragraff 10(a), a chan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p. 23), Atodlen 3, paragraff 23. Gwnaed diwygiadau eraill i adran 104 ond nid ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(7) 2002 p. 38 (“Deddf 2002”). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(8) Diwygiwyd adran 140(7) o Ddeddf 2002 gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 7(6).

(9) 2000 p. 14 (“Deddf 2000”). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Diffinnir “prescribed” a “regulations” yn adran 121(1) o Ddeddf 2000.

(10) Gwnaed diwygiadau i adran 22(7) ac i adran 118 ond nid ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(11) Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw’r diwygiadau sydd i’w gwneud gan y Rheoliadau hyn i is-ddeddfwriaeth bresennol a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 2000 yn achosi unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wnaed gan y ddeddfwriaeth honno ac felly nid ydynt wedi cynnal ymgynghoriad (yn unol ag adran 22(9) o Ddeddf 2000) mewn perthynas â’r diwygiadau canlyniadol a wneir gan y Rheoliadau hyn.



([1])           Gweler adran 197(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) i gael y diffiniad o “penodedig”, “a bennir” ac “a bennwyd” a “rheoliadau”.

([2])           O.S. 1991/1507.

([3])           2012 p. 10.

([4])           O.S. 2003/237 (Cy. 35).

([5])           O.S. 2015/1818 (Cy. 261).

([6])           O.S. 2002/327 (Cy. 40).

([7])           O.S. 2007/307 (Cy. 26).

([8])           O.S. 2003/237 (Cy. 35).

([9])           O.S. 2005/1313 (Cy. 95).

([10])         2014 dccc 4.

([11])         O.S. 2015/1818 (Cy. 261).

([12])         O.S. 2006/1715 (Cy. 177).

([13])         O.S. 2015/1818 (Cy. 261).

([14])         O.S. 2007/307 (Cy. 26).

([15])         O.S. 2007/310 (Cy. 27).